top of page

Pwy ydym ni?
"Gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau"

Mae Cymunedau am Waith a Mwy (CfW+) yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a redir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Mae'n helpu pobl leol i ddod o hyd i gyfleodd gwaith a hyfforddi. Gall y prosiect helpu unigolion 16 oed a mwy sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot ac sydd naill ai'n ddi-waith neu'n gweithio oriau isel/yn rhan amser/ar gontractau dim oriau/yn profi tlodi yn y gwaith. Rydym yn gweithredu dan ambarél Cyflogadwyedd Castell-nedd Port Talbot, ac mae gennym berson cyswllt canolog sy’n sicrhau bod unrhyw un a gyfeirir atom yn ymuno â’r prosiect cywir, ar sail eu hanghenion, lleoliad ac ati. Golyga hyn y gallent gael eu cyfeirio atom ninnau neu at un o'n partneriaid, fel Gweithffyrdd neu PaCE.

Beth i'w ddisgwyl?
Cefnogaeth wyneb yn wyneb, gyfeillgar i'ch helpu i gyrraedd eich nodau cyflogaeth.

Rydym yn dîm o staff cyfeillgar a phrofiadol sy'n ymrwymedig i'ch helpu i wella eich cyfleoedd cyflogaeth.  Mae gennym gysylltiadau eang gyda chyflogwyr lleol yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac rydym yn canolbwyntio ar sicrhau eich bod yn derbyn yr holl gymorth sydd ei angen arnoch i ddod o hyd i swydd addas ac/neu wella eich rhagolygon am yrfa.  Nid yw hwn yn wasanaeth gorfodol, ond galwch heibio i'n gweld a manteisio ar yr holl gyfleoedd y gallwn eu cynnig i chi.

Girl Working in a Cafe
Engineers at work
Colleagues at Work
Carpenter at Work
Image by John Schnobrich
bottom of page