top of page

Cyngor

Mae Cyflogadwyedd CNPT yma i'ch helpu gydag unrhyw faterion y gall fod angen help arnoch ar eu cyfer, megis:

  • Lunio C.V.

  • Hyfforddiant 

  • Technegau cyfweliad

  • Magu hyder

  • Chwilio am swyddi ar-lein a llenwi ffurflenni cais

  • Cyflogadwyedd

  • Cyngor ar fudd-daliadau

 

Gallwn hefyd helpu i ddymchwel unrhyw rwystrau a wynebwch, a all eich atal rhag cyrchu cyfleoedd gwaith a hyfforddi. Fel:

 

Costau gofal plant: os oes angen i chi fynd ar gwrs hyfforddiant, i gyfweliad neu ar leoliad ac mae angen cymorth arnoch i dalu costau gofal plant;

Costau Teithio: gallwn helpu gyda chostau teithio er mwyn i chi fynd ar gyrsiau hyfforddiant, i gyfweliadau neu ar leoliadau;

Costau dillad: er mwyn gwneud i chi deimlo'n ddigon trwsiadus a hyderus i fynd i gyfweliadau, lleoliadau ac i ddechrau swydd, gallwn helpu gyda chostau prynu rhywbeth taclus i'w wisgo;

Cyfarpar Amddiffyn Personol: os oes angen eitemau megis esgidiau diogelwch neu ddillad dwrglos arnoch i fynd ar gwrs neu leoliad, gallwn dalu am y rhain.

IMG_9964.JPG
bottom of page