Newyddion
Sut gall y cynllun trawsnewidiol hwn baru ceiswyr gwaith â chyflogwyr
Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn darparu pecyn llawn o gymorth i ddymchwel y rhwystrau i gyflogaeth. Darllenwch y stori gyfan yma.
Hybiau Cyfleoedd
Ar hyn o bryd rydym yn ceisio hybu ein ‘Hybiau Cyfleoedd’ newydd sydd wedi eu sefydlu ar draws Castell-nedd Port Talbot, ac yn gwahodd partneriaid/ sefydliadau cymorth lleol a grwpiau cymunedol/preswylwyr i ymuno â ni.
Mae'r Hybiau Cyfleoedd yn ddiwrnodau amlasiantaeth ble gall unigolion gael cymorth yn eu cymunedau eu hun, nid yn unig cymorth cyflogaeth, ond ar gyfer amrywiaeth o anghenion. Rydym yn ceisio mabwysiadu ymagwedd fwy holistaidd a gobeithiwn y bydd hyn yn fuddiol i bawb sydd ynghlwm gan helpu i leddfu tlodi a gwella lles ar draws y fwrdeistref.
Rydym yn deall nad yw pob unigolyn yn barod ar gyfer byd gwaith a gallai fod amrywiaeth o rwystrau neu faterion yn eu bywydau y mae'n rhaid iddynt fynd i'r afael â nhw cyn y gallant ystyried ddechrau gweithio, fel iechyd meddwl neu dai. Felly rydym yn ceisio creu hybiau croesawgar, sydd ar gael bob wythnos a ble gall aelodau o'r cyhoedd alw heibio a siarad â rhywun am eu pryderon a chael y cymorth sydd ei angen arnynt.