top of page

Sut allwn ni eich helpu?

Image by Jason Goodman

Hyfforddiant a Gweithdai

Yn ystyried gwella'ch sgiliau?

Pan fyddwch yn derbyn cymorth drwy ein rhaglenni, bydd gennych gyfle i fanteisio ar amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant a ariennir sydd, er enghraifft, yn amrywio o gymwysterau Cymorth Cyntaf i gardiau diogelwch yn y diwydiant adeiladu. Bydd eich mentor yn trafod y cyfleoedd hyn â chi a gall eich cofrestru ar gyfer hyfforddiant a fyddai'n eich helpu i gael swydd neu'ch paratoi ar gyfer y gweithle.

​

Os ydych yn ystyried gwella'ch sgiliau neu ennill cymwysterau penodol er mwyn sicrhau cyflogaeth, cysylltwch â'n tîm i weld a allwn helpu.

Cymorth

Mae Cyflogadwyedd CNPT yma i'ch helpu gydag unrhyw faterion y gall fod angen help arnoch ar eu cyfer, megis:

  • Lunio C.V.

  • Hyfforddiant 

  • Technegau cyfweliad

  • Magu hyder

  • Chwilio am swyddi ar-lein a llenwi ffurflenni cais

  • Cyflogadwyedd

  • Cyngor ar fudd-daliadau

Image by Gabrielle Henderson
Casual Business Meeting

Gwirfoddoli a Lleoliadau Gwaith

Gall ein tîm o Fentoriaid, Swyddogion Cyswllt Cyflogwyr (ELO) a'n Swyddog Lleoliadau eich helpu i gyrchu cyfleoedd lleoliadau gwaith a gwirfoddoli, ac mae ganddyn nhw gysylltiadau uniongyrchol â'r cyfleoedd cyflogaeth diweddaraf ym mhob sector. Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth!

COVID-19

Rydym yn falch o fod nôl yn y gymuned nawr a chael cyfarfod a chefnogi preswylwyr Castell-nedd Port Talbot wyneb yn wyneb. Rydym yn sicrhau ein bod yn dilyn unrhyw brotocolau a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot (fel cadw pellter cymdeithasol a glendid) i sicrhau diogelwch y staff a'r gymuned a gefnogwn.

Protective Face Mask
bottom of page