Hyfforddiant a
Gweithdai
Yn ystyried gwella'ch sgiliau?
Pan fyddwch yn derbyn cymorth drwy ein rhaglenni, bydd gennych gyfle i fanteisio ar amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant a ariennir sydd, er enghraifft, yn amrywio o gymwysterau Cymorth Cyntaf i gardiau diogelwch yn y diwydiant adeiladu. Bydd eich mentor yn trafod y cyfleoedd hyn â chi a gall eich cofrestru ar gyfer hyfforddiant a fyddai'n eich helpu i gael swydd neu'ch paratoi ar gyfer y gweithle.
Os ydych yn ystyried gwella'ch sgiliau neu ennill cymwysterau penodol er mwyn sicrhau cyflogaeth, cysylltwch â'n tîm i weld a allwn helpu.
Gallwn drefnu cyrsiau hyfforddiant i chi ar nifer o bynciau amrywiol, gan gynnwys rhai o'r canlynol:
-
Trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogeledd (SIA)
-
Cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu
-
PTS (Diogelwch Trac Personol) ar gyfer rheilffyrdd
-
Peiriannau ac offer bach
-
Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
-
Hyfforddiant LGV â thrwydded
-
Diogelu plant a phobl ifanc
-
Cymorth Cyntaf Pediatrig
-
Diogelwch bwyd
Rydym hefyd yn trefnu amrediad o hyfforddiant a gweithdai ychwanegol o bryd i'w gilydd, yn benodol ar gyfer preswylwyr sy'n cwrdd â'n hamodau cymhwyster ond sydd heb gofrestru eto gyda ni, fel gweithdai llesiant a threfnu blodau/gwneud torchau.
​
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gweld beth sydd ar y gweill gennym!